Neidio i’r cynnwys
Canllaw7 munud o ddarllen

Sut mae cael AI i argymell eich llety gwyliau neu’ch gwely a brecwast yng Nghymru?

Gofynnwch i gynorthwyydd am fwthyn ger Abersoch sydd â lle i bedwar ac sy’n croesawu ci, ac mae pob rhan o’r cwestiwn yn ffaith y mae’n rhaid i ryw dudalen ei nodi. Mae’r llwyfannau archebu’n gofyn i bob perchennog am y ffeithiau hynny, felly gall eu rhestriad nhw ateb lle nad yw’ch gwefan chi’n dweud gair. I gael eich argymell yn eich enw eich hun, nodwch yr un ffeithiau ar eich gwefan eich hun, yn y ddwy iaith, gyda ffordd o archebu’n uniongyrchol wrth law.

Aled Parry
Read in English
01

Beth mae teithwyr yn ei ofyn i gynorthwyydd cyn archebu

Meddyliwch am y cwestiwn fel y mae teithiwr yn ei deipio: rhywle ym Mhen Llŷn sydd â lle i chwech a phwynt gwefru i’r car, sy’n derbyn dau gi, ac sy’n ddigon agos at y traeth i gerdded yno gyda bygi. Mae pob rhan ohono’n cau rhai lleoedd allan, a dim ond ar sail yr hyn y mae rhyw dudalen yn ei ddweud y gall ateb gynnig llety. I’r ateb hwnnw, bwthyn a allai wrthod cŵn yw bwthyn nad yw ei wefan byth yn sôn amdanyn nhw.

Ychydig o ffeithiau sydd y tu ôl i gwestiynau fel hyn, a’r un rhai ydyn nhw i’r bwthyn, i’r ystafell mewn llety gwely a brecwast, i’r garafán sefydlog neu i’r pod glampio: y rhai rydych chi’n eu hateb drwy e-bost yn barod, mae’n debyg. Mae’r rhestr wirio isod yn eu casglu ynghyd.

Nid yw geiriau annelwig yn ateb yr un o’r cwestiynau hyn. Mae “agos at y traeth” yn gadael pa draeth a pha mor agos yn agored, ac mae “croeso i anifeiliaid anwes” yn gadael pa anifeiliaid a faint. Mae tudalen sy’n dweud “deuddeng munud ar droed i’r traeth, croeso i un ci” yn rhoi rheswm i westai ei dewis hi yn lle hynny.

02

Pam mae rhestriad ar wefan archebu’n aml yn ateb yn well na’ch gwefan chi

Mae llwyfan archebu’n gofyn yr un cwestiynau i bob perchennog, un maes ar y tro, ac yn cyhoeddi’r atebion fel testun. Mae tudalennau cymorth Airbnb i berchnogion yn rhannu’r amwynderau’n gategorïau fel parcio a chyfleusterau, ac yn dweud bod llawer o westeion yn hidlo’u canlyniadau chwilio yn ôl amwynderau. Y canlyniad yw rhestriad sy’n nodi’r ystafelloedd gwely, y rheol am gŵn a’r parcio mewn geiriau y gall unrhyw un eu dyfynnu.

Cymharwch hynny â gwefan a gafodd ei chreu i edrych yn dda: sioe sleidiau o’r olygfa, croeso cynnes, calendr wedi ei lwytho o wasanaeth arall, a’r manylion ymarferol mewn PDF neu yn y lluniau’n unig. Mae’n edrych yn well na’r rhestriad ac yn dweud llai. Os mai dim ond un o’r ddwy dudalen sy’n ateb y cwestiwn, honno yw’r dudalen y bydd teithiwr a chynorthwyydd fel ei gilydd yn dibynnu arni.

Profwch hyn fel y byddai gwestai’n ei wneud: disgrifiwch eich lle i gynorthwyydd heb ei enwi, yn Gymraeg ac yn Saesneg, wedyn holwch amdano wrth ei enw, ac agorwch y dolenni a ddaw gyda phob ateb. Lle maen nhw’n arwain at restriad, gwnewch eich tudalen eich hun o leiaf mor gyflawn â’r rhestriad, a gwnewch yn siŵr bod y ddau’n cytuno: os yw’r rhestriad yn dweud bod lle i bump a’ch gwefan yn dweud pedwar, mae’r ddwy dudalen yn disgrifio dau fwthyn gwahanol. Dylai eich Proffil Busnes Google adrodd yr un stori hefyd.

03

Y ffeithiau i’w rhoi ar eich gwefan eich hun, a sut i’w geirio

Ar dudalen pob eiddo, rhowch un bloc yn agos at y brig sy’n ateb y cwestiynau ymarferol mewn brawddegau plaen neu restr fer, fel testun yn hytrach nag mewn llun.

Enghraifft ddychmygol: bwthyn ger Abersoch a’i dudalen yn agor gyda “Ein bwthyn hyfryd yw’r man cychwyn perffaith i grwydro Pen Llŷn.” Nid yw’r frawddeg honno’n ateb dim. Mae hon yn ateb llawer: “Dwy ystafell wely, filltir i’r de o Abersoch, lle i bedwar mewn gwely dwbl a dau wely sengl. Croeso i un ci, heb dâl. Lle i barcio dau gar, a phwynt gwefru car trydan. Wi-Fi drwy’r tŷ; signal ffôn symudol gwan. Ugain munud ar droed i draeth Abersoch, a Llwybr Arfordir Cymru ym mhen draw’r lôn. Isafswm o dair noson, a dydd Sadwrn yw’r diwrnod newid. Archebwch yn uniongyrchol isod.”

Nodwch yr hyn nad yw yno mor blaen â’r hyn sydd yno: “dim cŵn”, “tri gris at y drws ffrynt, ystafelloedd gwely i fyny’r grisiau”. O ran mynediad, rhowch yr hyn sydd ei angen ar westai i farnu drosto’i hun. Mae Croeso Cymru yn gofyn i fusnesau yn ei Gynllun Cymeradwyo (Approved) am ddatganiad mynediad neu ganllaw hygyrchedd; os oes gennych un, cyhoeddwch hwnnw fel tudalen, nid fel ffeil i’w llwytho i lawr yn unig.

Wedyn, rhowch y ffordd i archebu’n uniongyrchol ar yr un dudalen: ffurflen neu ddolen, sut mae’r pris yn cael ei gyfrifo, a chyfeiriad e-bost a rhif ffôn wedi eu hysgrifennu fel testun.

  • Ble yn union, a pha mor bell ar droed yw’r traeth, y llwybr neu’r dafarn agosaf
  • Faint all gysgu yno, mewn sawl ystafell wely, ac ym mha welyau
  • Cŵn: a ydyn nhw’n cael dod, faint, ac a oes tâl
  • Parcio, gwefru car a Wi-Fi: oes neu nac oes clir i bob un
  • Mynediad: grisiau, ystafell wely ar y llawr gwaelod, y gawod
  • Yr isafswm o nosweithiau, y diwrnod newid, a sut i archebu’n uniongyrchol

Dim i’w wneud ag AI, ond mae’r dyddiad yn agosáu. Rhaid i unrhyw un sy’n derbyn archebion yng Nghymru am arosiadau o 31 noson neu lai gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru, erbyn 31 Mawrth 2027 os yw eisoes yn masnachu, hyd yn oed os nad yw’r cyngor lleol yn codi ardoll ymwelwyr. Mae cynllun trwyddedu ar gyfer llety hunanarlwyo yn gyfraith erbyn hyn, ond heb ddod i rym eto; mae tudalennau Llywodraeth Cymru yn rhoi’r sefyllfa ddiweddaraf.

04

Dywedwch hyn yn Gymraeg hefyd, nid y croeso’n unig

Os oes fersiwn Gymraeg o’ch gwefan, gwnewch yn siŵr ei bod yn cynnwys y ffeithiau ac nid y cyfarchiad yn unig. Mae teulu sy’n gofyn i gynorthwyydd, yn Gymraeg, am fwthyn sy’n derbyn cŵn yn holi am yr union fanylion hynny.

Mae gwely a brecwast dychmygol ym Metws-y-coed yn dangos cyn lleied sydd ei angen. Ar y dudalen Gymraeg: “Tair ystafell en-suite, bum munud ar droed o’r orsaf. Un ystafell ar y llawr gwaelod, gyda mynedfa wastad a chawod gerdded i mewn. Lle i barcio tri char. Croeso i gŵn yn ystafell yr ardd.” Mae’r dudalen Saesneg yn rhoi’r un ffeithiau mewn Saesneg naturiol, nid fel cyfieithiad gair am air.

Cadwch bob rhif yr un fath yn y ddwy iaith. Mae ein canllaw i enwau lleoedd Cymraeg yn trafod sillafiad safonol enw’r pentref, ac mae’r dudalen am wefannau dwyieithog yn esbonio sut mae dwy fersiwn tudalen yn enwi ei gilydd.

05

Data strwythuredig ar gyfer llety gwyliau: beth mae schema.org a Google yn ei gynnig

Mae gan schema.org, yr eirfa sydd y tu ôl i ddata strwythuredig, fathau ar gyfer y sector hwn. LodgingBusiness yw’r un cyffredinol, sef busnes llety fel gwesty neu dafarn, ac mae BedAndBreakfast a Campground ymhlith ei fathau. VacationRental yw ei enw ar lety gwyliau: busnes llety sy’n gosod eiddo unigol am gyfnodau byr. Accommodation yw’r lle ei hun: yr ystafell, y llain neu’r bwthyn.

Mae Accommodation yn derbyn numberOfBedrooms ac occupancy, sef nifer y bobl a ganiateir. Mae petsAllowed yn derbyn ie neu na, neu destun ar gyfer y manylion. Mae amenityFeature yn enwi nodwedd fel parcio neu Wi-Fi, ond mae schema.org yn nodi nad yw’n dweud a yw’r nodwedd yn costio’n ychwanegol, felly dywedwch hynny ar y dudalen.

Mae Google yn disgrifio marcio VacationRental, gyda’r Accommodation o fewn containsPlace a’r nifer mwyaf o westeion ymhlith y manylion. Mae’n dweud bod y cyfarwyddiadau hynny wedi eu bwriadu ar gyfer gwefannau sydd eisoes mewn cysylltiad â rheolwr cyfrif technegol (Technical Account Manager) yn Google ac sydd â mynediad at Hotel Center, ac mae ei dudalennau cymorth yn cyfeirio rheolwyr eiddo at bartneriaid cysylltedd cymeradwy. Ar gyfer un bwthyn, nid yw’r marcio ar ei ben ei hun yn agor y drws i’r nodwedd honno.

Yr hyn sy’n berthnasol i bawb yw rheol Google: rhaid i’r marcio ddisgrifio’r hyn y mae’r dudalen yn ei ddangos. Mae’r camau yn ein canllaw i ddata strwythuredig LocalBusiness, ac am fod LodgingBusiness yn fath o LocalBusiness, maen nhw’n berthnasol yma hefyd. Mae’r asesiad am ddim ar y wefan hon yn darllen un o’ch tudalennau fel y byddai peiriant yn ei darllen, ac yn enwi’r hyn sydd ar goll.

06

Cwestiynau cyffredin

Sut mae cael mwy o archebion uniongyrchol i’m bwthyn gwyliau?

Gwnewch yn siŵr mai eich gwefan eich hun yw’r dudalen fwyaf cyflawn am y bwthyn a’r lle hawsaf i’w archebu: pob ffaith y mae eich rhestriadau’n ei nodi, ynghyd â dolen neu ffurflen archebu, y pris a’ch manylion cyswllt. Ni all neb addo y bydd cynorthwyydd yn anfon pobl yno, ond mae’n rhoi tudalen yn eich enw eich hun i’r ateb.

Beth ddylai gwefan fy llety gwyliau ei ddweud er mwyn i AI ei argymell?

Ble yn union mae’r lle, faint all gysgu yno a sawl ystafell wely sydd, cŵn, parcio a gwefru car, mynediad, Wi-Fi, y traeth, y llwybr neu’r pentref agosaf, yr isafswm o nosweithiau, a sut i archebu’n uniongyrchol, pob un wedi ei ysgrifennu fel testun ar dudalen yr eiddo ei hun, ym mhob iaith sydd ar eich gwefan.

Mae fy mwthyn ar Airbnb a Booking.com. Pam mae fy ngwefan fy hun yn bwysig?

Dim ond at dudalennau sy’n dweud y pethau iawn y gall ateb anfon teithiwr. Os mai’r rhestriad yn unig sy’n gwneud hynny, dolen y llwyfan yw’r un y bydd yn ei dilyn, a thrwy’r llwyfan, ar ei delerau ei hun, y bydd yr archeb yn mynd.

A oes angen marcio VacationRental ar wefan fy llety gwyliau?

Nid er mwyn i gynorthwyydd ddarllen eich gwefan: y geiriau ar y dudalen sy’n dod gyntaf. Mae marcio VacationRental Google ei hun wedi ei fwriadu ar gyfer gwefannau sydd eisoes yn gweithio gyda Google drwy Hotel Center. Mae mathau llety schema.org ar gael i bawb, ond ni ddylen nhw ddweud dim nad yw’r dudalen yn ei ddweud yn barod.

Gwelwch beth y gall cynorthwyydd ei ddarllen ar eich gwefan

Asesiad am ddim o un cyfeiriad. Y sgôr yn gyntaf, y sylwadau gyda’r dystiolaeth, a thair ffeil wedi eu cynhyrchu o’ch tudalen eich hun.