Neidio i’r cynnwys
Gwefannau dwyieithog

Nid ategyn yw ail iaith

Mae’r rhan fwyaf o systemau’n bolltio’r ail iaith ar y gyntaf, dyna pam mai’r ffurflen Gymraeg sydd wastad yn torri a’r neges wall sy’n cyrraedd yn Saesneg. Rydyn ni’n adeiladu’r ddwy fel ieithoedd cyntaf.

Ar eich gwefan chi, does dim tudalen Gymraeg yn mynd yn fyw nes bod person wedi’i chymeradwyo, ar wahân i’r Saesneg.

Beth mae hynny’n ei olygu

Y ddwy iaith, yr holl ffordd drwodd

  • Cyfeiriad ei hun i bob iaith, /cy ac /en, nid llinyn ymholiad
  • Llywio, ffurflenni, negeseuon gwall ac e-byst yn yr iaith a ddewisodd yr ymwelydd
  • Metadata a data strwythuredig yn y ddwy, fel y gall AI ddarllen y naill neu’r llall
  • Dydy’r naill iaith ddim yn ddewis wrth gefn i’r llall
safle.app/cy/dechrauAnfonwch neges atomCyfeiriad e-bostGwiriwch y cyfeiriad e-bost.Anfon
Ble rydyn ni’n tynnu’r llinell

Pan nad oes gan ddarparwr Gymraeg, rydyn ni’n dweud hynny

Lle na all darparwr taliadau neu e-bost gario’r Gymraeg, ni sy’n berchen ar y rhyngwyneb o’i gwmpas, ac rydyn ni’n cofnodi pa rannau o’r daith na all eu cynnwys. Mae Stripe Checkout yn cefnogi 34 o ieithoedd. Dydy’r Gymraeg ddim yn un ohonyn nhw; mae Malteg.

Darllenwch: Gwelededd AI i wefannau Cymraeg

Rhowch reswm i AI ddweud eich enw.

Rydyn ni’n treialu, ac yn cymryd nifer cyfyngedig o ddiweddariadau, a byddwn ni’n dweud yn onest os nad yw’ch gwefan chi’n addas.

Gwirio fy ngwefan