Sut rydyn ni’n gwirio a all AI eich argymell
Gludwch gyfeiriad eich gwefan. Mewn tua munud byddwn ni’n darllen eich gwefan fel y byddai cynorthwyydd AI, ac yn ei sgorio ar y chwe pheth sy’n penderfynu a fyddwch chi’n cael eich enwi.
Wedi’ch canfod. Wedi’ch deall. Parod i’w argymell.
Rhaid i gynorthwyydd AI basio’r tri cyn i’ch enw ymddangos yn ei ateb.
Wedi’ch canfod
A all gyrraedd eich tudalennau a gweld eu bod yn perthyn i un busnes go iawn?
Wedi’ch deall
A all ddweud beth rydych chi’n ei wneud, ble, ac i bwy, heb ddyfalu?
Parod i’w argymell
Oes digon o fanylion cyson a dibynadwy i’ch cynnig chi?
O beth mae’r sgôr wedi’i wneud
Rydyn ni’n ei alw’n wiriad Clir: chwe signal, pob un yn cael sgôr 0 i 100, ac yn cael eu cyfuno’n un ffigur gan ddefnyddio’r un pwysiadau cyhoeddedig i bob gwefan.
Deall y busnes
Eich enw, beth rydych chi’n ei wneud ac i bwy, wedi’u nodi’n glir.
Cynhyrchion a gwasanaethau
Yr hyn rydych chi’n ei gynnig, wedi’i restru a’i ddisgrifio yn hytrach na’i guddio mewn paragraff.
Lleoliad ac ardal wasanaeth
Ble rydych chi a ble rydych chi’n gweithio, wedi’i ysgrifennu fel y gall peiriant ei fapio.
Strwythur y gall AI ei ddarllen
Penawdau, data strwythuredig a marcio y gall cynorthwyydd eu dosrannu.
Awdurdod ac ymddiriedaeth
Manylion cyson, adolygiadau, cymwysterau a dolenni sy’n eich cefnogi.
Sylfeini technegol
Cyflymder, hygyrchedd a thudalennau sy’n llwytho’n iawn ar ffôn.
Cymraeg a Saesneg, yn gyfartal
Mae’r adroddiad ar gael yn Gymraeg neu’n Saesneg. Pan fyddwn ni’n diweddaru gwefan, mae’r ddwy iaith yn cael eu hadeiladu a’u gwirio yr un ffordd, a dydy’r naill ddim yn mynd yn fyw am fod y llall yn barod.
- Pob iaith ar ei thudalennau ei hun, yn ei chyfeiriadau ei hun
- Wedi’u marcio fel y gall chwilio ac AI wahaniaethu rhwng yr ieithoedd
- Wedi’u cymeradwyo gan berson, un iaith ar y tro
Wnaiff mwy o bostiadau blog ddim datrys y broblem
Mae offer sy’n cyhoeddi erthygl bob dydd yn gwerthu swmp. Ond mae cynorthwyydd yn gallu argymell busnes dim ond os yw’n gallu ei ddisgrifio, ac os nad yw eich tudalennau chi’n dweud yn glir beth rydych chi’n ei wneud, ble, a sut i gysylltu â chi, mae mwy o erthyglau ond yn rhoi mwy o le iddo ddyfalu.
- Dywedwch beth rydych chi’n ei wneud a ble, mewn geiriau clir, ar eich tudalennau eich hun
- Defnyddiwch yr un enw, cyfeiriad a rhif ffôn ym mhobman
- Gwnewch yn siŵr bod eich data strwythuredig yn cytuno â’r dudalen
- Rhowch dudalennau eu hunain i bob iaith, os yw eich cwsmeriaid yn defnyddio’r ddwy
Dim addewidion am safleoedd
All neb warantu lle mewn ateb AI. Yr hyn y gallwn ni ei wneud yw sicrhau nad oes dim ar eich gwefan yn eich atal rhag cael eich deall.
- Am ddim, dim angen cyfrif
- Yn barod mewn tua munud
- Copi drwy e-bost i’w gadw
- Yr un pwysiadau cyhoeddedig i bob gwefan
- Yn Gymraeg neu’n Saesneg
Rhowch reswm i AI ddweud eich enw.
Rydyn ni’n treialu, ac yn cymryd nifer cyfyngedig o ddiweddariadau, a byddwn ni’n dweud yn onest os nad yw’ch gwefan chi’n addas.
Gwirio fy ngwefan